English / Cymraeg


Mae'n bryd dod i ben digartrefedd am byth.

Rydyn ni wedi ymuno â llu o enwogion gan gynnwys Tom Hardy, Emma Thompson, Ellie Goulding, Jodie Whittaker a Richard Gere i alw am roi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhrydain Fawr.  

Mae’r gerdd ‘If Everybody Is In/Os yw Pawb Mewn’ gan Stefan Gambrell, Bardd Preswyl Crisis, a elwir hefyd yn Neanderthal Bard, yn galw am roi diwedd ar ddigartrefedd.

Ymunwch â’n hymgyrch Everybody In i wneud safiad yn erbyn digartrefedd. 

Gallwn roi diwedd ar ddigartrefedd am byth. Rydyn ni wedi cyhoeddi cynllun yn dangos yr atebion a all roi diwedd ar ddigartrefedd ym Mhrydain. Dydi hyn ddim yn golygu na fydd neb byth yn colli’u cartref eto, ond bod pawb sy’n wynebu digartrefedd yn cael yr help angenrheidiol yn fuan. Mae’n golygu gwneud yn siŵr fod gan bawb le i fyw, a gwneud popeth a allwn ni gyda’n gilydd i arbed pobl rhag colli’u cartrefi yn y lle cyntaf.

Rydyn ni’n gwybod y gallwn ni #EndHomelessness.  Ond rydyn ni angen Everybody In i wneud iddo ddigwydd. Ydych chi mewn? 

Dywedwch wrthym pam yr ydych ‘mewn’ i roi diwedd ar ddigartrefedd ac fe ddangoswn eich neges ar ein gwefan.

Gawn ni gysylltu â chi?

Mae eich cefnogaeth yn werth y byd i Crisis. Gyda’n gilydd gallwn wneud pethau rhyfeddol i atal digartrefedd a thrawsnewid bywydau.
Hoffem gadw mewn cysylltiad trwy e-bost i roi gwybod ichi am waith Crisis a sut y gallwch chi helpu atal digartrefedd drwy ymgyrchu, codi arian, rhoi arian a gwirfoddoli. Darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Nodwch isod i ddweud a ydych yn hapus i ni gysylltu â chi fel hyn: